{kowydd y Sêr}
1 Digior wyf am ail ewyn
2 Duw a wyr meddwl pob dyn
3 o daw arnaf oi chariad
4 v'enaid glaer vyned yw gwlad
5 pell yw i'm bryd ddirprwyaw
6 llatai drud yw lletuy draw
7 na rhoi gwerth i wrach serth swydd
8 orllwyd taer er llateirwydd
9 na dwyn i'm cylch danllestri
10 na physt cwyr panvo hwyr hi
11 dros gysgu y dydd gaertref
12 a cherdded nos dros y dref
13 ni'm gwyl neb ni'm adnebydd
14 ynvyd wyf oni vo dydd
15 mi a gaf ynddiwravvn
16 rhac didro heno vyhvn
17 cannwyllae'r gwr biae'r byd
18 i'm hebrwng at em hoywbryd
19 bendith ar enw'r creawdner
20 a wnaeth saerniaeth y ser
21 hyd nad oes dim oleuach
22 no'r seren gron burwen bach
23 cannaid o'r vchel geli
24 cannwyll ewybr bwyll yw hi
25 ni ddiphyd pryd y gannwyll
26 ai dwyn ni ellir o dwyll
27 nis diphyd gwynt hynt hydref
28 afrlladen o nen y nef
29 nis bawdd dwfr llwfr llifeiriaint
30 disgwylwraig desgil saig y saint
31 ni ddeily lleidr ai ddwylaw
32 gwaelawd cawg y drindawd draw
37 gwir vwcled y goleuni
38 gwalabr haul gloyw wybr yw hi
35 goleu yw ymhob ardal
36 goldyn o aur melyn mal
39 hi a ddengys ym heb gudd
40 em eurvalch lle mae Morvudd
41 Christ o'r lle mae ai diphyd
42 ag ai gyrr nid byrr y byd
43 gosgedd torth gan gyfan gu
44 i gysgod wybr i gysgu
Dauid ap Gwilim